Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

Ymgyrch Arbennig ar Gyfer y Gynhadledd

Ymgyrch Arbennig ar Gyfer y Gynhadledd

Bob blwyddyn, mae yna ddisgwyl mawr am y wledd ysbrydol sydd i’w chael yn ein cynadleddau rhanbarthol. Er mwyn i eraill brofi mai da yw Jehofa, byddwn ni’n gwahodd gymaint ag y medrwn ni i ddod. (Sal 34:8) Bydd pob corff henuriaid yn penderfynu ar sut i wneud y defnydd gorau posibl o’r gwahoddiadau.

MANYLION I’W COFIO

  • Pryd mae fy nghynhadledd i?

  • Pryd mae’r ymgyrch leol yn dechrau?

  • Pryd mae’r cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth?

  • Beth yw fy nod i yn ystod yr ymgyrch?

  • Pwy ydw i am wahodd?

BETH RWYT TI AM EI DDWEUD?

Ar ôl dweud helo, gallet ti ddweud:

“Rydyn ni’n rhan o ymgyrch fyd-eang i ddosbarthu’r gwahoddiad hwn. Mae’n wahoddiad ichi ddod i ddigwyddiad pwysig iawn. Dyma’r dyddiad, yr amser, a’r lleoliad. Mae croeso cynnes ichi ddod!”

SUT GELLI DI FEITHRIN DIDDORDEB?

Er ein bod ni eisiau gwahodd gymaint o bobl ag y medrwn i’r gynhadledd, dylen ni fod yn effro i alw’n ôl ar ddeiliaid sy’n ymateb yn bositif.

Ar y penwythnosau, gelli di gynnig y cylchgronau ynghyd â’r gwahoddiad.