RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH
Adnodd Newydd ar Gyfer Dechrau Sgyrsiau
Ers Ionawr 2016, mae tudalen gefn y Watchtower cyhoeddus wedi dangos y gyfres o erthyglau “What Does the Bible Say?” Mae’r erthyglau hynny wedi cael eu dylunio er mwyn helpu ni i ddechrau sgyrsiau ar bynciau sydd yn y Beibl. Mae fformat yr erthyglau yn debyg i’r taflenni. Mae yna gwestiwn barn, wedyn ateb o’r Beibl, ynghyd â phwyntiau ychwanegol i’w trafod.
Yn aml iawn, mae sgyrsiau braf am bynciau Ysgrythurol yn arwain at astudiaethau Beiblaidd. Defnyddia’r adnodd newydd hwn i helpu eraill sy’n “newynu am gyfiawnder.”—Mth 5:6.
SUT I’W DDEFNYDDIO:
-
Gofynna am farn y deiliad ar un o’r cwestiynau
-
Gwranda ar ei ateb a’i gydnabod
-
Darllena’r adnod o dan y pennawd “What the Bible Says” a gofynna am farn y deiliad. Os oes ganddo amser, parha i sgwrsio gan ddefnyddio un o’r pwyntiau o dan y pennawd “What Else Can We Learn From the Bible?”
-
Cynnig y cylchgrawn
-
Trefna i alw yn ôl er mwyn trafod y cwestiwn nesaf