Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Caneuon y Deyrnas yn Hwb i’n Dewrder

Caneuon y Deyrnas yn Hwb i’n Dewrder

Moli Duw â chân wnaeth Paul a Silas tra oedden nhw yn y carchar. (Act 16:25) Yn y cyfnod modern, fe ganodd cyd-gredinwyr ganeuon y Deyrnas tra oedden nhw yng ngwersyll crynhoi Sachsenhausen yn yr Almaen Natsïaidd a phan oedden nhw’n alltud yn Siberia. Mae’r esiamplau hyn yn darlunio grym caneuon i roi hwb i Gristnogion i fod yn ddewr wrth wynebu treialon.

Yn fuan, caiff llawer o ieithoedd eraill eu llyfr caneuon newydd “Canwn yn Llawen i Jehofa.” Unwaith inni gael ein copi personol, braf fyddai ysgrifennu’r geiriau ar lech y galon i’w cofio nhw. Cawn wneud hyn drwy ymarfer y caneuon yn ystod ein haddoliad teuluol. (Eff 5:19) Yna, bydd ysbryd glân Duw yn ein helpu i’w cofio pan ddaw treialon. Gall caneuon y Deyrnas ein helpu i ganolbwyntio ar ein gobaith a rhoi hwb inni pan wynebwn dreialon. A phan ydyn ni mewn hwyliau da, mae’r geiriau adeiladol yn gwneud inni “ganu’n llawen” oherwydd cyflwr da’r galon. (1Cr 15:16; Sal 33:1-3) Ar bob cyfrif gad inni ddefnyddio caneuon y Deyrnas!

GWYLIA’R FIDEO A SONG THAT INSPIRED LABORERS, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa amgylchiadau achosodd Brawd Frost i gyfansoddi cân?

  • Sut rhoddodd y gân hwb i’r brodyr yng ngwersyll crynhoi Sachsenhausen?

  • O dan ba amgylchiadau gallai caneuon y Deyrnas dy atgyfnerthu di?

  • Pa ganeuon y Deyrnas hoffet ti eu dysgu ar dy gof?