EIN BYWYD CRISTNOGOL
Rho Groeso Cynnes Iddyn Nhw
Rho groeso cynnes i bwy? Unrhyw un sy’n dod i’n cyfarfodydd Cristnogol—rhai sy’n dod am y tro cyntaf a hen ffrindiau. (Rhu 15:7; Heb 13:2) Gall ei fod yn gyd-grediniwr o wlad arall neu Gristion anweithredol sy’n dod am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Dychmyga sut y byddet ti’n teimlo. Oni fyddet ti’n gwerthfawrogi cyfarchiad cynnes? (Mth 7:12) Felly, yn Neuadd y Deyrnas, beth am wneud mwy o ymdrech i gymysgu a chyfarch eraill cyn i’r cyfarfod ddechrau ac ar ei ddiwedd? Mae hyn yn hybu awyrgylch cynnes a chariadus ac yn dod ag anrhydedd i Jehofa. (Mth 5:16) Wrth gwrs, efallai ni fydd yn bosibl i siarad â phawb sy’n bresennol. Eto i gyd, os wnawn ni ein rhan, bydd pawb yn teimlo’r croeso. *
Dangoswn wir groeso, nid ar achlysur arbennig fel y Goffadwriaeth yn unig ond bob amser. Pan ddaw rhai newydd a gweld cariad Cristnogol ar waith, a’i brofi iddyn nhw eu hunain, gall hyn eu denu i foli Duw ac ymuno â ni mewn gwir addoliad.—In 13:35.