Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gelli Di Annog Cristion Anweithredol

Gelli Di Annog Cristion Anweithredol

Bob blwyddyn, mae llawer o Gristnogion anweithredol yn dod i’r Goffadwriaeth. Maen nhw eisoes wedi dechrau rhedeg ras bywyd ond maen nhw wedi arafu am wahanol resymau, a gwelwn rai enghreifftiau yn y llyfryn Return to Jehovah. (Heb 12:1) Ac eto, mae’r rhai anweithredol yn dal yn werthfawr i Jehofa, a’u prynodd â gwaed ei Fab. (Act 20:28; 1Pe 1:18, 19) Sut gallwn ni eu helpu i ddod yn ôl i’r gynulleidfa?

Mae henuriaid y gynulleidfa yn ceisio cael hyd i Gristnogion anweithredol fel y mae bugeiliaid yn chwilio’n ddyfal am ddefaid sydd wedi crwydro oddi wrth y praidd. (Lc 15:4-7) Mae hyn yn dangos gofal cariadus Jehofa. (Jer 23:3, 4) Cyfrifoldeb pob un ohonon ni, nid yr henuriaid yn unig yw annog y rhai sydd wedi crwydro. Mae ein hymdrechion i ddangos caredigrwydd a chydymdeimlad yn plesio Jehofa a gall ddwyn ffrwyth. (Dia 19:17; Act 20:35) Felly, meddylia am bwy y gelli di ei annog, a dos ati heb oedi!

GWYLIA’R FIDEO ENCOURAGE THE INACTIVE ONES, AC YNA YSTYRIA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth wnaeth Abbey wrth gyfarfod â Thyst nad oedd hi’n ei hadnabod?

  • Pam dylen ni fynd at yr henuriaid os ydyn ni’n meddwl am helpu rhywun sy’n anweithredol?

  • Sut paratôdd Abbey i ymweld â Laura yr ail waith?

  • Sut dangosodd Abbey ddyfalbarhad, amynedd, a chariad wrth geisio annog Laura?

  • Beth ddysgwn ni o ddameg Iesu yn Luc 15:8-10?

  • Beth oedd y bendithion a ddaeth o weithio ar y cyd i helpu Laura?