Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | MARC 3-4

Iacháu ar y Saboth

Iacháu ar y Saboth

3:1-5

Pam roedd Iesu wedi ei gynhyrfu gan agwedd yr arweinwyr crefyddol Iddewig? Am eu bod wedi gwneud y Saboth yn fwrn drwy ychwanegu llu o fân ddeddfau ato. Er enghraifft, roedd lladd chwannen wedi ei wahardd. Roedd iacháu ond yn gyfreithlon os oedd bywyd yn y fantol. Felly petai rhywun yn sigo ei ffêr neu dorri ei asgwrn ar y Saboth, doedd dim modd ei drin ar y diwrnod hwnnw. Yn amlwg, doedd gan yr arweinwyr crefyddol ddim gwir gonsýrn dros y dyn gyda’r llaw ddiffrwyth.