Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Pregethu a Dysgu—Yn Angenrheidiol ar Gyfer Gwneud Disgyblion

Pregethu a Dysgu—Yn Angenrheidiol ar Gyfer Gwneud Disgyblion

Gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr fynd ati i wneud disgyblion. (Mth 28:19) Mae hyn yn cynnwys pregethu a dysgu eraill. O bryd i’w gilydd, dylen ni i gyd gofyn i ni’n hunain, ‘Sut gallaf wella yn y gwahanol agweddau pwysig hyn o’r gwaith o wneud disgyblion?’

PREGETHU

Yn lle aros i bobl ddod aton ni, mae’n rhaid inni wneud yr ymdrech i chwilio am unigolion sy’n ‘barod i’n croesawu.’ (Mth 10:11) Wrth inni bregethu, a ydyn ni’n effro i gyfleoedd i siarad â phobl sydd yn “digwydd bod yno”? (Act 17:17) Daeth Lydia yn ddisgybl o ganlyniad i bregethu diwyd Paul.—Act 16:13-15.

“Hau dy had yn y bore, a phaid segura gyda’r nos” (Pre 11:6)

GWYLIA’R FIDEO CONTINUE PREACHING “WITHOUT LETUP”INFORMALLY AND FROM HOUSE TO HOUSE, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Yn ei fywyd pob dydd, sut gwnaeth Samuel ddangos ei fod yn chwilio am y cyfle i blannu hadau’r gwirionedd?

  • Pam mae’n rhaid inni ddal ati ym mhob math o bregethu?

  • Gyda phwy allet ti rannu neges y Deyrnas yn dy fywyd pob dydd?

DYSGU ERAILL

Er mwyn gwneud disgyblion, mae angen inni wneud mwy na dim ond gadael ein llenyddiaeth gyda phobl. I helpu nhw wneud cynnydd ysbrydol, mae’n rhaid inni alw’n ôl a chynnal astudiaethau Beiblaidd. (1Co 3:6-9) Ond eto, beth os nad ydyn ni’n gweld llawer o ganlyniadau da o’n holl ymdrech i ddysgu rhywun y gwirionedd? (Mth 13:19-22) Dylen ni barhau i chwilio am y rhai sydd â chalonnau sy’n debyg i “dir da.”—Mth 13:23; Act 13:48.

“Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i’w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu” (1Co 3:6)

GWYLIA’R FIDEO CONTINUE PREACHING “WITHOUT LETUP”PUBLICLY AND MAKING DISCIPLES, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut gwnaeth Solomon a Mary ddyfrio hadau’r gwirionedd oedd yng nghalonnau Ezekiel ac Abigail?

  • Beth ddylai fod ein nod ym mhob agwedd o’r weinidogaeth, gan gynnwys tystiolaethu cyhoeddus?

  • Sut gallen ni roi mwy o bwyslais ar ddysgu’r gwirionedd i eraill?