EIN BYWYD CRISTNOGOL
Ceisia Addysg Ddwyfol
PAM MAE’N BWYSIG: Mae Jehofa, yr Addysgwr Mawr, yn cynnig yr addysg orau posib. Y mae’n ein dysgu sut i wella’n bywyd ac yn ein paratoi ni am ddyfodol disglair, a hynny heb inni orfod talu ceiniog! (Esei 11:6-9; 30:20, 21; Dat 22:17) Drwy addysg ddwyfol, mae Jehofa yn rhoi popeth sydd ei angen arnon ni er mwyn rhannu neges achubol ag eraill.—2Co 3:5.
SUT I FYND ATI:
-
Gweithia i fod yn ostyngedig ac yn addfwyn.—Sal 25:8, 9
-
Manteisia ar unrhyw hyfforddiant sydd ar gael i ti nawr, fel aseiniadau myfyrwyr yn y cyfarfod canol wythnos
-
Gosoda nodau ysbrydol i ti dy hun.—Php 3:13
-
Gwna’r aberthau angenrheidiol er mwyn iti fod yn gymwys i dderbyn hyfforddiant pellach.—Php 3:8
GWYLIA’R FIDEO SPIRITUALLY RICH BY JEHOVAH’S TEACHING, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pa anawsterau y gwnaeth rhai cyhoeddwyr eu trechu er mwyn mynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas?
-
Pa hyfforddiant mae’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas yn ei gynnig?
-
Pa gymorth a gafodd y rhai sydd wedi graddio gan aelodau eu cynulleidfaoedd newydd?
-
Beth yw’r gofynion ar gyfer mynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas? (kr-E 189)
-
Pa hyfforddiant arall fedri di ei geisio yng nghyfundrefn Jehofa?