EIN BYWYD CRISTNOGOL
Sut Byddi Di’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?
O’r flwyddyn hon ymlaen, bydd gennyn ni fwy o amser i baratoi ar gyfer Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Pan fydd y Goffadwriaeth yn disgyn yng nghanol yr wythnos, ni chaiff Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth ei gynnal yr wythnos honno. Pan fydd y Goffadwriaeth yn disgyn ar benwythnos, ni fydd anerchiad cyhoeddus nac Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio yn cael eu cynnal chwaith. A fyddi di’n gwneud y defnydd gorau o dy amser ychwanegol? Fel yr oedd hi yn y ganrif gyntaf, bydd rhaid gwneud trefniadau ymarferol ar gyfer yr achlysur arbennig hwn. (Lc 22:7-13; km 3/15 1) Ond dylai bob un ohonon ni baratoi ein calonnau. Sut gallwn ni wneud hyn?
-
Myfyria ar bwysigrwydd bod yn bresennol.—1Co 11:23-26
-
Gweddïa a meddylia am dy berthynas bersonol â Jehofa.—1Co 11:27-29; 2Co 13:5
-
Darllena’r deunydd Ysgrythurol sy’n trafod ystyr y Goffadwriaeth.—In 3:16; 15:13
Bydd rhai cyhoeddwyr yn darllen ac yn myfyrio ar y darlleniad o’r Beibl a geir yn Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd. Bydd eraill yn darllen yr adnodau sydd i’w cael yn y siart isod. Ac eto bydd eraill yn adolygu erthyglau o’r Tŵr Gwylio sy’n trafod y Goffadwriaeth a’r cariad y mae Jehofa ac Iesu wedi ei ddangos tuag aton ni. Pa bynnag brosiect rwyt ti’n ei ddewis, boed iddo gryfhau dy berthynas â Jehofa a’i Fab.