Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Beth Sy’n Bwysicaf Imi?

Beth Sy’n Bwysicaf Imi?

Brwydrodd Jacob yn erbyn angel i gael rhywbeth pwysig iawn—bendith Jehofa. (Ge 32:24-31; Ho 12:3, 4) Beth amdanon ni? Ydyn ni’n barod i wneud popeth a fedrwn ni er mwyn ufuddhau i Jehofa a derbyn ei fendith? Er enghraifft, os oes rhaid inni ddewis rhwng mynd i’r cyfarfod a gweithio’n hwyr, beth fydd ein penderfyniad? Pan fyddwn ni’n rhoi i Jehofa y gorau o’n hamser, ein hegni, a’n pethau materol, fe fydd yn tywallt bendith arnon ni, nes ein bod ni’n “brin o ddim byd.” (Mal 3:10) Bydd Jehofa yn ein harwain, ein gwarchod, ac yn gofalu am ein hanghenion. —Mth 6:33; Heb 13:5.

GWYLIA’R FIDEO STAY FOCUSED ON SPIRITUAL GOALS, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut daeth rhywbeth roedd y chwaer yn ei fwynhau yn brawf iddi?

  • Sut gall ein gwaith fod yn brawf inni?

  • Pam roedd rhaid i Timotheus barhau i osod amcanion iddo’i hun er ei fod bellach yn Gristion aeddfed?—1Ti 4:16

  • Beth sy’n bwysicaf yn dy fywyd di?

    Sut rydyn ni’n dangos beth yw ein prif swydd?