Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cael Gwared ar Dduwiau Dieithr

Cael Gwared ar Dduwiau Dieithr

Roedd Jacob yn gwybod y dylai addoli Jehofa yn unig, er nad oedd Jehofa wedi rhoi’r gorchymyn yn erbyn eilunaddoliaeth eto. (Ex 20:3-5) Felly, ar ôl i Jehofa ddweud wrtho am ddychwelyd i Bethel, rhoddodd Jacob gyfarwyddyd i bawb oedd gydag ef gael gwared ar eu heilunod. Claddodd Jacob yr eilunod, gan gynnwys clustlysau, a oedd efallai’n cael eu gwisgo fel swynbethau. (Ge 35:1-4) Roedd Jehofa bendant yn hapus â’r hyn a wnaeth Jacob.

Heddiw, sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n addoli Jehofa a neb arall? Mae’n bwysig iawn inni osgoi unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag eilunaddoliaeth ac ysbrydegaeth. Byddai hynny’n gofyn inni gael gwared ar unrhyw beth sy’n ymwneud â’r ocwlt ac inni ystyried ein hadloniant yn ofalus. Er enghraifft, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n mwynhau llyfrau neu ffilmiau sy’n cynnwys pethau fel fampirod, sombis, neu’r goruwchnaturiol? Ydy fy adloniant yn portreadu hud a lledrith neu felltithion fel hwyl ddiniwed?’ Dylen ni gadw draw oddi wrth bopeth mae Jehofa yn ei gasáu.—Sal 97:10.

GWYLIA’R FIDEO “OPPOSE THE DEVIL,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa broblem cododd ym mywyd Palesa pan oedd hi’n astudio’r Beibl?

  • Pam byddai’n ddoeth i geisio help yr henuriaid pan fydd rhywun yn cael problemau ag ysbrydegaeth?

  • Gwrthwyneba’r Diafol, a chlosia at Dduw.—Iag 4:7, 8

    Er mwyn cael ein gwarchod gan Jehofa, pa bethau mae’n rhaid inni gael gwared arnyn nhw?

  • Beth gwnaeth Palesa benderfynu ei wneud?

  • Sut gelli di osgoi dylanwad y cythreuliaid yn dy ardal di?