Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | LUC 10-11

Dameg y Samariad Trugarog

Dameg y Samariad Trugarog

10:25-37

Defnyddiodd Iesu’r ddameg hon i ateb y cwestiwn, “Pwy ydy fy nghymydog?” (Lc 10:25-29) Roedd yn gwybod y byddai “pobl o bobman” yn dod yn rhan o’r gynulleidfa Gristnogol, gan gynnwys Samariaid a Chenedl-ddynion. (In 12:32) Gwnaeth y ddameg ddysgu dilynwyr Iesu y dylen nhw fynd allan o’u ffordd i ddangos cariad tuag at eraill, hyd yn oed pobl sy’n wahanol iawn iddyn nhw.

GOFYNNA I TI DY HUN:

  • ‘Sut ydw i’n teimlo am frodyr a chwiorydd o wahanol ddiwylliannau?’

  • ‘Ydw i’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser gyda’r rhai sydd â’r un diddordebau â mi?’

  • ‘A allwn i agor fy nghalon a dod i adnabod fy nghyd-Gristnogion o gefndiroedd gwahanol yn well?’ (2Co 6:13)

Pwy gallaf ei wahodd i . . .

  •  weithio gyda fi ar y weinidogaeth

  •  dod i fy nghartref am bryd o fwyd

  •  ymuno â fy nheulu am ein noson Addoliad Teuluol nesaf