Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | LUC 8-9

Dilyn Fi—Beth Sydd ei Angen?

Dilyn Fi—Beth Sydd ei Angen?

9:62

Er mwyn i’r aradwr gadw’r cwysi’n syth, roedd rhaid iddo beidio â gadael i unrhyw beth y tu ôl iddo dynnu ei sylw. Yn yr un modd, ni all Cristion ganiatáu i bethau a gadawodd ar ei ôl yn y byd dynnu ei sylw.—Php 3:13.

Pan wynebwn anawsterau, mae’n hawdd hiraethu am y dyddiau a fu, efallai am y cyfnod cyn daethon ni i’r gwirionedd. Gallwn feddwl bod y gorffennol yn fêl i gyd gan ddewis anghofio ei broblemau. Dyna beth wnaeth yr Israeliaid ar ôl gadael yr Aifft. (Nu 11:5, 6) Petasen ni’n mynd ati i hel meddyliau o’r fath, efallai y bydden ni’n cael ein temtio i droi’n ôl at ein hen ffordd o fyw. Gymaint gwell fyddai cyfri’n bendithion nawr a chadw’n golwg ar y pethau hyfryd a ddaw o dan reolaeth y Deyrnas!—2Co 4:16-18.