Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Peidiwch Byth â Phryderu

Peidiwch Byth â Phryderu

Helpodd Jehofa’r tlodion yn Israel gynt. Ym mha ffyrdd mae’n helpu’r rhai tlawd ymhlith ei weision heddiw?

  • Mae wedi ein dysgu i gael agwedd gytbwys at arian.—Lc 12:15; 1Ti 6:6-8

  • Mae wedi ein helpu i gael hunan-barch. —Job 34:19

  • Mae wedi ein dysgu i weithio’n galed ac osgoi arferion niweidiol.—Dia 14:23; 20:1; 2Co 7:1

  • Mae wedi ein denu i frawdoliaeth Gristnogol gariadus.—In 13:35; 1In 3:17, 18

  • Mae’n rhoi gobaith inni.—Sal 9:18; Esei 65:21-23

Ni waeth pa mor anobeithiol mae ein sefyllfa’n ymddangos, does dim angen inni bryderu. (Esei 30:15) Bydd Jehofa’n gofalu am ein hanghenion materol cyhyd ag ydyn ni’n parhau i geisio ei Deyrnas yn gyntaf.—Mth 6:31-33, BCND.

GWYLIA’R FIDEO DYDY CARIAD BYTH YN DARFOD ER GWAETHAF . . . TLODI—CONGO, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut mae’r brodyr sy’n byw yn agos at gynadleddau wedi dangos lletygarwch tuag at y rhai sy’n gorfod teithio yno?

  • Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r fideo am gariad Jehofa tuag at y rhai tlawd?

  • Sut gallwn ni efelychu Jehofa dim ots faint sydd gynnon ni’n faterol?