EIN BYWYD CRISTNOGOL
Ymgyrch Arbennig i Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ym Mis Medi
Yn ystod mis Medi, byddwn ni’n gwneud ymdrech arbennig i gynnig astudiaethau Beiblaidd i bawb, gan ddefnyddio’r llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! Mae’r opsiwn ar gael i gyhoeddwyr sydd eisiau arloesi’n gynorthwyol wneud 30 awr. Sut gallwn ni gael rhan yn yr ymgyrch hon?
-
Ar yr Alwad Gyntaf: Defnyddia dudalen gefn y llyfryn i ennyn diddordeb, a cheisia dangos sut rydyn ni’n ei astudio. Cofia rai sydd wedi dangos diddordeb yn y gorffennol, gan gynnwys ail alwadau. Hyd yn oed os ydyn nhw wedi gwrthod astudio o’r blaen, efallai bydd ganddyn nhw ddiddordeb yn y llyfryn newydd a’r ffordd newydd o astudio. Os nad ydy unrhyw un gartref ddylen ni ddim gadael llyfryn na’i anfon mewn llythyr i rai sydd heb ddangos diddordeb. Efallai bydd pwyllgor gwasanaeth y gynulleidfa yn trefnu cyfarfodydd ychwanegol ar gyfer y weinidogaeth yn ystod y mis.
-
Cyfleoedd Eraill: Dylai’r llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! gael ei ddangos ar drolïau llenyddiaeth os ydy dy gynulleidfa yn eu defnyddio nhw. Dyweda wrth rai sy’n dangos diddordeb fod ’na gwrs Beiblaidd am ddim ar gael gyda’r llyfryn. Gelli di ddangos sut rydyn ni’n astudio yn y fan a’r lle, neu drefnu i wneud hynny yn nes ymlaen. Gall yr arolygwr gwasanaeth drefnu i gyhoeddwyr cymwys ymweld â busnesau i gynnig astudiaethau Beiblaidd. Gelli di hefyd gynnig astudiaeth Feiblaidd i gyd-weithwyr neu i bobl rwyt ti’n cwrdd â nhw wrth dystiolaethu’n anffurfiol.
Gorchmynnodd Iesu inni wneud disgyblion a’u dysgu nhw. (Mth 28:19, 20) Bydd yr ymgyrch arbennig hon yn ein helpu ni i wneud hynny, gan ddefnyddio Mwynhewch Fywyd am Byth!