EIN BYWYD CRISTNOGOL
Wyt Ti’n Ceisio Gweld Atebion i Dy Weddïau?
Mae ’na lawer o esiamplau yn y Beibl o Jehofa’n ateb gweddïau. Mae’n rhaid bod ffydd gweision Duw wedi ei chryfhau pan welon nhw sut roedd Jehofa’n gwrando ar eu pryderon ac yn eu helpu nhw. Felly mae’n dda i fod yn benodol yn ein gweddïau personol, ac yna ceisio gweld ateb Jehofa. Ond cofia, gall ei ateb fod yn wahanol neu fynd y tu hwnt i’n disgwyliadau. (2Co 12:7-9; Eff 3:20) Pa bethau mae Jehofa’n eu rhoi inni i ateb ein gweddïau?
-
Cryfder corfforol, emosiynol, neu ysbrydol i ddelio â phroblem.—Php 4:13, BCND
-
Doethineb i wneud penderfyniad da.—Iag 1:5
-
Y gallu a’r awydd i weithredu.—Php 2:13
-
Heddwch meddwl pan ydyn ni’n pryderu.—Php 4:6, 7
-
Cefnogaeth gorfforol neu emosiynol gan eraill.—1In 3:17, 18
GWYLIA’R FIDEO JEHOFA SY’N “GWRANDO GWEDDÏAU,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut gall profiad y brawd Shimizu ein calonogi ni os ydy problemau iechyd yn ein rhwystro ni?
-
Sut gallwn ni efelychu’r Brawd Shimizu?