EIN BYWYD CRISTNOGOL | GOSODA AMCANION AR GYFER Y FLWYDDYN WASANAETH NESAF
Symud i Le Mae Mwy o Angen
Mae’n rhaid cael ffydd er mwyn symud oddi gartref i ardal newydd er mwyn gwneud mwy yn y weinidogaeth. (Heb 11:8-10) Os wyt ti’n meddwl am symud i le mae mwy o angen, siarada â’r henuriaid. Pa gamau ymarferol gelli di eu cymryd i gyfri’r gost a dewis ardal? Edrycha ar beth mae ein cyhoeddiadau wedi ei ddweud am wasanaethu ble mae ’na fwy o angen. Siarada â rhai sydd wedi symud i helpu cynulleidfa arall. (Dia 15:22) Gweddïa ar Jehofa am arweiniad. (Iag 1:5) Dysga fwy am unrhyw ardal rwyt ti’n ei hystyried, a cheisia fynd yno am fwy nag ychydig o ddyddiau cyn penderfynu.
GWYLIA’R FIDEO CAEL DY YSGOGI GAN FFYDD I WNEUD MWY—SYMUD I LE MAE MWY O ANGEN, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pa newidiadau oedd rhaid i Gabriel eu gwneud, a beth wnaeth ei helpu?