Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL | GOSODA AMCANION AR GYFER Y FLWYDDYN WASANAETH NESAF

Arloesi

Arloesi

Mae cael amcanion ysbrydol yn ein helpu ni i ddefnyddio ein hegni mewn ffordd ddoeth. (1Co 9:26) Maen nhw hefyd yn ein helpu ni i wneud y defnydd gorau o’r amser sydd gynnon ni cyn diwedd y system hon. (Eff 5:15, 16) Yn ystod dy addoliad teuluol, beth am osod amcanion ar gyfer y flwyddyn wasanaeth sydd i ddod? I helpu, mae’r rhifyn hwn o’r gweithlyfr yn cynnwys erthyglau sy’n trafod gwahanol amcanion i feddwl a gweddïo amdanyn nhw.—Iag 1:5.

Er enghraifft, ydy’r teulu cyfan yn gallu cydweithio fel bod o leiaf un aelod yn gallu arloesi’n llawn amser? Os nad wyt ti’n siŵr os gelli di wneud yr oriau, siarada â rhai arloeswyr sydd gan amgylchiadau tebyg i dy rai di. (Dia 15:22) Efallai gelli di roi cyfweliad i arloeswr yn ystod addoliad teuluol. Yna, ysgrifenna syniadau ar gyfer amserlen. Os wyt ti wedi arloesi yn y gorffennol, ystyria os ydy dy amgylchiadau yn caniatáu iti wneud hynny eto.

A fyddai rhai yn dy deulu yn gallu arloesi’n gynorthwyol am fis neu fwy? Os nad oes gen ti lawer o egni, efallai byddi di’n gallu arloesi’n gynorthwyol drwy dreulio tipyn bach o amser yn y weinidogaeth bob dydd. Os nad oes gen ti lawer o amser i fynd yn y weinidogaeth canol wythnos oherwydd gwaith llawn amser neu ysgol, efallai gelli di ddewis mis sy’n cynnwys pum penwythnos neu wyliau. Rho yn dy galendr pryd rwyt ti’n bwriadu arloesi’n gynorthwyol a gwna amserlen.—Dia 21:5.

GWYLIA’R FIDEO BYDDA’N DDEWR OS WYT . . . YN ARLOESWR, AC YNA ATEBA’R CWESTIWN HWN:

  • Sut mae profiad y Chwaer Aamand yn dangos cariad a gofal Jehofa at y rhai sy’n gwneud aberthau i arloesi?