Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gelli Di Gyfrannu at Lawenydd Dy Deulu

Gelli Di Gyfrannu at Lawenydd Dy Deulu

Mae Jehofa eisiau i deuluoedd fod yn hapus. (Sal 127:3-5; Pre 9:9; 11:9) Ond gall pwysau’r byd hwn a chamgymeriadau aelodau eraill o’r teulu amharu ar ein llawenydd. Beth gelli di ei wneud i gyfrannu at lawenydd dy deulu di?

Mae gŵr yn anrhydeddu ei wraig. (1Pe 3:7) Mae’n treulio amser gyda hi. Dydy ef ddim yn disgwyl gormod ganddi. Yn hytrach, mae’n dangos ei fod yn gwerthfawrogi popeth mae hi’n ei wneud drosto ef a’r teulu. (Col 3:15) Mae hefyd yn ei chanmol hi ac yn dangos ei fod yn ei charu.—Dia 31:28, 31.

Mae gwraig yn chwilio am ffyrdd i gefnogi ei gŵr. (Dia 31:12) Mae hi’n ymostwng iddo ac yn cydweithio ag ef. (Col 3:18) Mae hi’n garedig wrth siarad â’i gŵr ac wrth sôn amdano.—Dia 31:26.

Mae rhieni yn treulio amser gyda’u plant. (De 6:6, 7) Maen nhw’n dweud wrth eu plant eu bod nhw’n eu caru. (Mth 3:17) Maen nhw’n disgyblu gyda chariad a dealltwriaeth.—Eff 6:4.

Mae plant yn gwrando ar eu rhieni ac yn ufuddhau iddyn nhw. (Dia 23:22) Maen nhw’n dweud wrth eu rhieni sut maen nhw’n teimlo a beth sydd ar eu meddyliau. Maen nhw’n derbyn cyngor eu rhieni ac yn dangos parch tuag atyn nhw.—Dia 19:20.

GWYLIA’R FIDEO MEITHRIN LLAWENYDD YN DY DEULU, AC YNA ATEBA’R CWESTIWN CANLYNOL:

Beth roedd rhaid i bob unigolyn ei wneud er mwyn cael llawenydd yn y teulu?