Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Ymgyrch Arbennig i Gyhoeddi Teyrnas Dduw ym Mis Medi!

Ymgyrch Arbennig i Gyhoeddi Teyrnas Dduw ym Mis Medi!

Yn ystod mis Medi, byddwn ni’n gwneud ymdrech arbennig i ddangos i bobl mai dim ond Teyrnas Dduw all datrys problemau dynolryw. (Mth 24:14) Gelli di gael rhan drwy rannu adnod am Deyrnas Dduw gyda chymaint o bobl â phosib yn ystod y mis. Cynigia gopi o rifyn 2, 2020, y Tŵr Gwylio cyhoeddus i bawb sy’n dangos diddordeb. Yna, galwa yn ôl cyn gynted â phosib gyda’r nod o ddechrau astudiaeth yn y llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! Gall pawb sy’n arloesi’n gynorthwyol ym mis Medi ddewis gwneud un ai 15 neu 30 awr.

Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn chwalu pob llywodraeth sy’n ei gwrthwynebu. (Da 2:44; 1Co 15:24, 25) Dewch inni fanteisio’n llawn ar y cyfle arbennig hwn i ddangos ein bod ni’n cefnogi Jehofa a’i Deyrnas!