EIN BYWYD CRISTNOGOL
Maen Nhw’n Gweithio’n Galed i’n Helpu Ni
Mae arolygwyr cylchdaith yn aberthu llawer o bethau am eu bod nhw’n caru’r rhai maen nhw’n eu helpu. Mae ganddyn nhw anghenion personol yr un fath â phawb, ac yn gallu blino, digalonni, a phryderu. (Iag 5:17) Er hynny, maen nhw’n canolbwyntio ar annog y brodyr a’r chwiorydd mewn gwahanol gynulleidfaoedd bob wythnos. Yn sicr, mae arolygwyr cylchdaith yn haeddu “mwy o barch.” —1Ti 5:17.
Pan aeth Paul i Rufain i “rannu rhodd ysbrydol” â’r gynulleidfa yno, roedd yn edrych ymlaen, nid yn unig at galonogi eraill, ond hefyd at gael ei galonogi ei hun. (Rhu 1:11, 12) Sut gelli di galonogi dy arolygwr cylchdaith, a’i wraig os ydy ef yn briod?
GWYLIA’R FIDEO BYWYD AROLYGWR CYLCHDAITH MEWN ARDAL WLEDIG, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut mae arolygwyr cylchdaith a’u gwragedd yn dangos cariad hunan aberthol?
-
Sut rwyt ti wedi elwa’n bersonol o’u hymdrechion?
-
Sut gallwn ni eu calonogi nhw?