Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Kokkinakis v. Greece: Droit réservé

Yn glocwedd o’r chwith uchaf: West Virginia State Board of Education v. Barnette; Kokkinakis v. Greece; Taganrog LRO and Others v. Russia; Cha and Others v. South Korea

EIN BYWYD CRISTNOGOL

“Amddiffyn a Sefydlu’r Newyddion Da yn Gyfreithiol”

“Amddiffyn a Sefydlu’r Newyddion Da yn Gyfreithiol”

Pan wnaeth gwrthwynebwyr drio stopio’r Israeliaid rhag ailadeiladu’r deml, aeth yr adeiladwyr ati i sefydlu eu hawl gyfreithiol i fwrw ymlaen â’r gwaith. (Esr 5:11-16) Mewn ffordd debyg, mae Cristnogion heddiw wedi gweithio’n galed i amddiffyn a sefydlu’r newyddion da yn gyfreithiol. (Php 1:7) Er mwyn gwneud hynny, cafodd Adran Gyfreithiol ei ffurfio yn y pencadlys ym 1936. Heddiw, mae’r adran honno yn amddiffyn gwaith y Deyrnas yn fyd-eang. Sut maen nhw’n mynd ati i wneud hynny, a sut mae pobl Duw yn elwa?

GWYLIA’R FIDEO GWAITH ADRAN GYFREITHIOL Y PENCADLYS, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa heriau cyfreithiol mae Tystion Jehofa wedi eu hwynebu?

  • Pa achosion cyfreithiol ydyn ni wedi eu hennill? Rho enghraifft

  • Sut gallwn ni helpu i “amddiffyn a sefydlu’r newyddion da yn gyfreithiol”?

  • Ble ar ein gwefan gallwn ni ddarllen am faterion cyfreithiol sy’n effeithio ar bobl Dduw a rhestr o Dystion Jehofa sydd yn y carchar dros eu ffydd?