Awst 26–Medi 1
SALM 78
Cân 97 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Anffyddlondeb Israel—Esiampl Rybuddiol
(10 mun.)
Gwnaeth Israel anghofio am weithredoedd rhyfeddol Jehofa (Sal 78:11, 42; w96-E 12/1 29-30)
Doedd Israel ddim yn gwerthfawrogi rhoddion Duw (Sal 78:19; w06-E 7/15 17 ¶16)
Dangosodd yr Israeliaid batrwm o anffyddlondeb yn hytrach na dysgu o’u camgymeriadau (Sal 78:40, 41, 56, 57; w11-E 7/1 10 ¶3-4)
MYFYRIA AR HYN: Beth all ein helpu ni i osgoi bod yn anffyddlon i Jehofa?
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 78:24, 25—Pam mae’r manna yn cael ei alw’n “ŷd o’r nefoedd” a “bara’r angylion”? (w06-E 7/15 11 ¶4)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 78:1-22 (th gwers 5)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 5 pwynt 5)
5. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Defnyddia daflen i ddechrau sgwrs. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 5 pwynt 4)
6. Dechrau Sgwrs
(1 mun.) O DŶ I DŶ. Mae’r person yn gofyn iti gadw’r sgwrs yn fyr. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 2 pwynt 5)
7. Dechrau Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Meddylia am ffordd naturiol o adael i’r person wybod dy fod ti’n un o Dystion Jehofa a chynigia astudiaeth Feiblaidd, ond paid â rhannu unrhyw wirionedd penodol o’r Beibl. (lmd gwers 2 pwynt 4)
Cân 96
8. Dysga Gan Esiampl Philip y Pregethwr
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae’r ysgrythurau’n llawn esiamplau da a drwg. Ond mae elwa ohonyn nhw yn gofyn am ymdrech ar ein rhan ni. Mae’n rhaid inni gymryd yr amser i astudio’r esiamplau yn y Beibl, myfyrio ar y gwersi rydyn ni’n eu dysgu, ac yna addasu ein hymddygiad.
Beth gallwn ni ei ddysgu gan esiampl Philip y pregethwr, dyn a oedd yn adnabyddus am fod “yn llawn yr ysbryd a doethineb”?—Ac 6:3, 5.
Dangosa’r FIDEO Learn From Them—Philip the Evangelizer. Yna gofynna i’r gynulleidfa pa wersi gwnaethon nhw eu dysgu o’r canlynol:
-
Ymateb Philip pan newidiodd ei amgylchiadau yn sydyn.—Ac 8:1, 4, 5
-
Y bendithion a dderbyniodd Philip oherwydd ei fodlonrwydd i wasanaethu lle roedd yr angen yn fwy.—Ac 8:6-8, 26-31, 34-40
-
Y bendithion a dderbyniodd Philip a’i deulu o ganlyniad i’w lletygarwch.—Ac 21:8-10
-
Y llawenydd a dderbyniodd y teulu yn y dramateiddiad o ganlyniad i ddilyn esiampl Philip.
9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt-E pen. 3 ¶12-18; btq pen. 3