Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Awst 5-11

SALMAU 70-72

Awst 5-11

Cân 59 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Dyweda “Wrth y Genhedlaeth Sydd i Ddod” am Nerth Duw

(10 mun.)

Gwelodd Dafydd fod Jehofa wedi ei amddiffyn pan oedd yn ifanc (Sal 71:5; w99-E 9/1 18 ¶17)

Teimlodd Dafydd gefnogaeth Jehofa pan oedd yn hen (Sal 71:9; g04-E 10/8 23 ¶3)

Anogodd Dafydd bobl ifanc drwy rannu ei brofiadau â nhw (Sal 71:​17, 18; w14-E 1/15 23 ¶4-5)

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Pwy yn y gynulleidfa sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd alla i gyfweld â nhw fel rhan o Addoliad Teuluol?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 72:8—Sut cafodd addewid Jehofa i Abraham yn Genesis 15:18 ei gyflawni yn ystod teyrnasiad y Brenin Solomon? (it-1-E 768)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 71:​1-24 (th gwers 5)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) O DŶ I DŶ. Wrth i’r person ddechrau cweryla, dod â’r sgwrs i ben ar nodyn positif. (lmd gwers 4 pwynt 5)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Parha â sgwrs gyda pherthynas sydd ddim yn siŵr am un o’n dysgeidiaethau ac sy’n dal yn ôl rhag astudio’r Beibl. (lmd gwers 8 pwynt 4)

6. Egluro Dy Ddaliadau

(5 mun.) Anerchiad. ijwfq 49—Thema: Pam Mae Tystion Jehofa Wedi Newid Rhai o’u Daliadau? (th gwers 17)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 76

7. Syniadau ar Gyfer Addoliad Teuluol

(15 mun.) Trafodaeth.

Mae Addoliad Teuluol yn gyfle arbennig i blant ddysgu ‘disgyblaeth a hyfforddiant Jehofa.’ (Eff 6:4) Er bod dysgu yn gofyn am ymdrech, gall fod yn brofiad hwylus, yn enwedig wrth i blant feithrin yr awydd i ddysgu mwy am y Beibl. (In 6:27; 1Pe 2:2) Adolyga’r blwch “ Awgrymiadau ar Gyfer Addoliad Teuluol,” a all helpu rhieni i wneud Addoliad Teuluol yn effeithiol ac yn hwyl, ac yna gofynna’r cwestiynau canlynol:

  • Pa awgrymiadau hoffet ti eu trio?

  • A wyt ti wedi dod ar draws syniadau da eraill?

Dangosa’r FIDEO Parhau i Wella Addoliad Teuluol. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Sut gall gŵr helpu ei wraig i fwynhau addoliad teuluol pan does ’na ddim plant yn y tŷ?

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 103 a Gweddi