Gorffennaf 29–Awst 4
SALM 69
Cân 13 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Cafodd Digwyddiadau ym Mywyd Iesu eu Rhagfynegi yn Salm 69
(10 mun.)
Roedd pobl yn casáu Iesu heb achos (Sal 69:4, BCND; In 15:24, 25; w11-E 8/15 11 ¶17)
Roedd Iesu yn selog dros dŷ Jehofa (Sal 69:9; In 2:13-17; w10-E 12/15 8 ¶7-8)
Teimlodd Iesu boen emosiynol ofnadwy a chafodd rhywbeth chwerw ei gynnig iddo (Sal 69:20, 21; Mth 27:34; Lc 22:44; In 19:34; g95-E 10/22 31 ¶4; it-2-E 650)
MYFYRIA AR HYN: Pam gwnaeth Jehofa gynnwys proffwydoliaethau am y Meseia yn yr Ysgrythurau Hebraeg?
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 69:30, 31—Sut gall yr adnodau hyn ein helpu ni i wella ansawdd ein gweddïau? (w99-E 1/15 18 ¶11)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 69:1-25 (th gwers 2)
4. Amynedd—Esiampl Iesu
(7 mun.) Trafodaeth. Dangosa’r FIDEO, ac yna trafod lmd gwers 8 pwyntiau 1-2.
5. Amynedd—Dilyna Esiampl Iesu
(8 mun.) Trafodaeth yn seiliedig ar lmd gwers 8 pwyntiau 3-5 a “Gweler Hefyd.”
Cân 134
6. Anghenion Lleol
(5 mun.)
7. Egwyddorion ar Gyfer Addoliad Teuluol
(10 mun.) Trafodaeth.
Ym mis Ionawr, 2009, cafodd Astudiaeth Llyfr y Gynulleidfa, Ysgol y Weinidogaeth, a’r Cyfarfod Gwasanaeth eu cyfuno i mewn i un cyfarfod canol wythnos. Roedd hyn yn rhoi mwy o amser i deuluoedd roi sylw i addoliad teuluol. Mae llawer wedi dweud eu bod nhw’n ddiolchgar iawn am y trefniant hwn, sydd wedi eu helpu nhw i agosáu at Jehofa ac at ei gilydd.—De 6:6, 7.
Pa egwyddorion all helpu’r penteulu i gynnal Addoliad Teuluol yn llwyddiannus?
-
Bod yn gyson. Os yw’n bosib, neilltua amser penodol bob wythnos ar gyfer addoliad teuluol, ond bydda’n barod i gynnal yr astudiaeth ar ddiwrnod arall os ydy rhywbeth yn chwalu dy drefniadau
-
Paratoi. Gofynna i dy wraig a dy blant am gynigion. Does dim rhaid mynd dros ben llestri wrth baratoi, yn enwedig os ydy’r teulu yn mwynhau gwneud yr un math o weithgareddau bob wythnos
-
Addasu’r rhaglen yn ôl anghenion y teulu. Wrth i dy blant dyfu, mae eu hanghenion a’u galluoedd yn newid. Dylai addoliad teuluol helpu pob aelod o’r teulu i dyfu’n ysbrydol
-
Cael awyrgylch cyfforddus a chariadus. Pan mae’r tywydd yn dda, beth am astudio y tu allan? Does dim o’i le gyda chael seibiant bob hyn a hyn. Er bod angen rhoi sylw i broblemau’r teulu, paid â defnyddio addoliad teuluol i ddweud y drefn neu i ddisgyblu
-
Cael amrywiaeth. Gall y teulu wneud pethau fel paratoi ar gyfer cyfarfod, gwylio a thrafod fideo ar jw.org, neu gael sesiwn ymarfer ar gyfer y weinidogaeth. Mae addoliad teuluol yn rhoi cyfle i deuluoedd drafod pethau gyda’i gilydd, ond ar adegau gall aelodau’r teulu ddefnyddio’r amser i wneud astudiaeth bersonol
Trafoda’r cwestiwn hwn:
-
Sut mae dy deulu di wedi ceisio rhoi’r egwyddorion hyn ar waith?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt-E pen. 2 ¶8-15 btq pen.2