EIN BYWYD CRISTNOGOL
Sut i Roi Atebion Da
Mae atebion da yn adeiladu. (Rhu 14:19) Maen nhw’n fuddiol i’r sawl sy’n eu rhoi. (Dia 15:23, 28) Dylen ni geisio rhoi o leiaf un ateb ym mhob cyfarfod. Wrth gwrs, chaiff ein llaw mo’i dewis bob tro. Felly, mae’n well i baratoi sawl ateb.
Mae ateb da yn . . .
-
syml, eglur, a byr. Rhan fwyaf o’r amser, gallwn ei roi mewn 30 eiliad neu lai
-
well yn dy eiriau dy hun
-
osgoi ailadrodd yn ddiangen yr ateb blaenorol
Os ti yw’r cyntaf i ateb, . . .
-
rho ateb syml, sy’n syth i’r pwynt
Os yw’r cwestiwn wedi cael ei ateb yn barod, gallet ti . . .
-
ddangos sut mae’r adnod yn berthnasol i’r pwnc dan sylw
-
sôn sut mae’r mater yn effeithio ar ein bywydau
-
esbonio sut gall y wybodaeth gael ei defnyddio
-
adrodd yn fyr rhyw brofiad sy’n cefnogi un o’r pwyntiau allweddol