Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | DIARHEBION 1-6

‘Ymddiried yn Llwyr yn Jehofa’

‘Ymddiried yn Llwyr yn Jehofa’

Mae Jehofa yn haeddu ein hymddiriedaeth lawn. Mae ystyr enw Duw yn cynyddu ein hyder yn ei allu i gyflawni pob un o’i addewidion. Peth arall sy’n helpu ni gynyddu ein hymddiriedaeth ynddo yw gweddi. Cawn ein sicrhau yn Diarhebion pennod 3 y bydd Jehofa yn gwobrwyo ein hymddiriedaeth ynddo drwy ‘ddangos y ffordd iawn’ inni.

Mae’r un sy’n meddwl ei fod yn glyfar yn . . .

3:5-7

  • gwneud penderfyniadau heb ofyn am arweiniad Jehofa yn gyntaf

  • ymddiried yn ei ffordd ei hun o feddwl neu ffordd y byd

Mae’r un sy’n ymddiried yn Jehofa yn . . .

  • meithrin perthynas glòs ag ef drwy astudio’r Beibl, myfyrio, a gweddïo

  • ceisio ei arweiniad drwy chwilio am egwyddorion y Beibl i’w helpu i wneud penderfyniadau

PA GOLOFN SY’N DISGRIFIO FY FFORDD I O WNEUD PENDERFYNIADAU?

YN GYNTAF: Dw i’n dewis y ffordd y dw i’n meddwl sydd orau

YN GYNTAF: Dw i’n ceisio arweiniad Jehofa drwy weddi ac astudiaeth bersonol

YN AIL: Gofynnaf i Jehofa fendithio fy mhenderfyniad

YN AIL: Dw i’n dewis ffordd sy’n unol ag egwyddorion y Beibl