EIN BYWYD CRISTNOGOL
Cariad yw Arwydd y Gwir Gristion—Amddiffynna Undod Gwerthfawr
PAM MAE’N BWYSIG? Ar y noson cyn ei farwolaeth, gweddïodd Iesu am i’w ddisgyblion gael eu “dwyn i undod llawn.” (In 17:23) Er mwyn bod yn gytûn, mae’n rhaid inni ddal ati i ddangos cariad, sydd yn “fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.”—1Co 13:5.
SUT I FYND ATI:
-
Efelycha Jehofa drwy edrych am y da ym mhobl eraill
-
Bydda’n barod i faddau
-
Ar ôl datrys problem, paid â chodi’r mater eto.—Dia 17:9
GWYLIA’R FIDEO “HAVE LOVE AMONG YOURSELVES”—DO NOT KEEP ACCOUNT OF THE INJURY, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Yn rhan gyntaf y fideo, sut gwnaeth Helen ddangos ei bod hi’n dal dig?
-
Yn ail ran y fideo, sut trechodd Helen ei ffordd negyddol o feddwl a mynd ati i feithrin agwedd bositif?
-
Yn y pen draw, sut gwnaeth Helen gyfrannu at undod y gynulleidfa?