EIN BYWYD CRISTNOGOL
Bobl Ifanc—Ai Jehofa Yw Dy Ffrind Gorau?
Pa rinweddau rwyt ti’n chwilio amdanyn nhw mewn ffrind? Mae’n debyg dy fod ti’n gwerthfawrogi ffyddlondeb, caredigrwydd, a haelioni. Mae gan Jehofa rhain i gyd. (Ex 34:6; Act 14:17) Mae’n gwrando wrth iti weddïo arno. Mae’n rhoi help llaw bryd bynnag rwyt ti ei angen. (Sal 18:19, 35) Mae’n maddau dy gamgymeriadau. (1In 1:9) Am ffrind bendigedig yw Jehofa!
Sut gelli di fod yn ffrind i Jehofa? Dysga amdano drwy ddarllen ei Air. Tywallt dy galon o’i flaen. (Sal 62:8; 142:2) Dangosa dy fod ti’n trysori’r pethau sy’n bwysig i Jehofa, fel ei Fab, ei Deyrnas, a’i addewidion am y dyfodol. Dyweda wrth eraill amdano. (De 32:3) Os wyt ti’n meithrin perthynas agos â Jehofa, bydd yn ffrind iti am byth.—Sal 73:25, 26, 28.
GWYLIA’R FIDEO YOUTHS—“TASTE AND SEE THAT JEHOVAH IS GOOD,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut gelli di baratoi ar gyfer ymgysegru a bedydd?
-
Sut gall eraill yn y gynulleidfa dy helpu di i addoli Jehofa?
-
Sut mae’r weinidogaeth yn cryfhau dy berthynas â Jehofa?
-
Pa aseiniadau sydd ar gael iti yng ngwasanaeth Jehofa?
-
Beth rwyt ti’n ei werthfawrogi am Jehofa?