Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Ymgyrch Arbennig ym Mis Tachwedd i Gyhoeddi Teyrnas Dduw

Ymgyrch Arbennig ym Mis Tachwedd i Gyhoeddi Teyrnas Dduw

Cyhoeddodd Iesu y newyddion da am Deyrnas Dduw. (Lc 4:43) Hefyd dysgodd eraill i weddïo am y Deyrnas honno. (Mth 6:9, 10) Yn ystod mis Tachwedd byddwn ni’n gwneud ymdrech lew i gyhoeddi Teyrnas Dduw. (Mth 24:14) Trefna dy amserlen er mwyn iti gael rhan lawn yn yr ymgyrch hon. Gall pawb sy’n arloesi’n gynorthwyol ddewis gwneud un ai 30 neu 50 awr yn ystod y mis hwn.

Rhanna ysgrythur am Deyrnas Dduw â chymaint o bobl yn dy diriogaeth â phosib. Wrth ddewis ysgrythur, ystyria gefndir crefyddol dy wrandawyr. Os ydy rhywun yn dangos diddordeb ar yr alwad gyntaf, rho gopi o rifyn cyhoeddus Y Tŵr Gwylio Rhif 2, 2020, iddo. Yna meithrin unrhyw ddiddordeb cyn gynted â phosib, a cheisia ddechrau astudiaeth Feiblaidd gan ddefnyddio cyhoeddiad o’n Bocs Tŵls Dysgu. Amser prin sydd ar ôl cyn i Deyrnas Dduw sathru pob llywodraeth sy’n ei gwrthwynebu. (Da 2:44; 1Co 15:24, 25) Felly, boed inni wneud y gorau o’r cyfle arbennig hwn i ddangos ein bod ni’n cefnogi Jehofa a’i Deyrnas!

Daw Teyrnas Dduw â Pharadwys i’r ddaear!