EIN BYWYD CRISTNOGOL
Trysora Dy Berthynas â Jehofa
Mae gan Dystion Jehofa fraint arbennig. Fel Cristnogion bedyddiedig, rydyn ni’n parhau i feithrin perthynas ddofn a phersonol gyda’n Harglwydd Frenin Jehofa. Mae wedi ein denu ni ato Ef drwy ei Fab. (In 6:44) Mae’n gwrando ar ein gweddïau.—Sal 34:15.
Sut gallwn ni warchod ein perthynas werthfawr â Duw? Un peth gallwn ni ei wneud ydy peidio â dilyn ffordd bechadurus yr Israeliaid. Yn fuan ar ôl i Jehofa wneud cyfamod â’r Israeliaid, gwnaethon nhw lo aur a throi at eilunaddoliaeth. (Ex 32:7, 8; 1Co 10:7, 11, 14) Gallwn ofyn: ‘Sut ydw i’n ymateb wrth wynebu temtasiwn? Ydy fy ngweithredoedd yn dangos fy mod i’n trysori fy mherthynas â Jehofa?’ Bydd cariad dwfn at ein Tad nefol yn ein helpu i ffoi rhag y pethau y mae’n eu casáu.—Sal 97:10.
GWYLIA’R FIDEO GUARD YOUR RELATIONSHIP WITH JEHOVAH (COL 3:5), AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Beth ydy chwennych?
-
Pam dylen ni wrthod chwant ac eilunaddoliaeth?
-
Pa gysylltiad sydd ’na rhwng godineb ac eilunaddoliaeth?
-
Pam mae hi’n enwedig o bwysig i rywun sydd â chyfrifoldebau theocrataidd wneud yn siŵr ei fod yn gofalu am anghenion ei gymar?