Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Paratoi’r Ffordd ar Gyfer Ail Alwad

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Paratoi’r Ffordd ar Gyfer Ail Alwad

PAM MAE’N BWYSIG?

Rydyn ni eisiau rhoi dŵr i hadau’r gwirionedd. (1Co 3:6) Pan fyddwn ni’n siarad â rhywun sy’n dangos diddordeb, peth da yw gadael cwestiwn i’w drafod y tro nesaf. Bydd y person yn edrych ymlaen at y sgwrs nesaf, a bydd yn haws inni baratoi ar gyfer yr alwad. Pan awn ni’n ôl, gallwn ddweud ein bod ni wedi dod i ateb y cwestiwn a godon ni’r tro diwethaf.

SUT I FYND ATI?

  • Wrth baratoi eich cyflwyniad, paratowch hefyd gwestiwn i’w ateb ar yr alwad nesaf. Gallwch ddewis cwestiwn sy’n cael ei ateb yn y cyhoeddiadau rydych chi’n eu defnyddio. Neu, os ydych chi’n bwriadu cynnig un o’r cyhoeddiadau ar gyfer astudio ar yr alwad nesaf, gallwch godi cwestiwn sy’n cael ei ateb yn hwnnw.

  • Ar ddiwedd y sgwrs, dywedwch y byddech chi’n hoffi cael sgwrs arall, a chodwch y cwestiwn a baratowyd gennych chi. Os yw’n bosibl, gofynnwch am ei fanylion cyswllt.

  • Os ydych chi’n gwneud apwyntiad penodol i fynd yn ôl, byddwch yn sicr o’i gadw.Mth 5:37.