Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Ein Braint i Adeiladu ac i Gynnal a Chadw Ein Haddoldai

Ein Braint i Adeiladu ac i Gynnal a Chadw Ein Haddoldai

Roedd adeiladu’r deml yn Israel yn waith caled a chostus. Ond, fe wnaeth pobl Israel gefnogi’r gwaith yn selog. (1Cr 29:2-9; 2Cr 6:7, 8) Ar ôl gorffen y gwaith adeiladu, roedd cyflwr y deml yn ddrych o gyflwr ysbrydol y genedl. (2Br 22:3-6; 2Cr 28:24; 29:3) Heddiw, mae Cristnogion yn gweithio’n galed i adeiladu, i lanhau, ac i gynnal a chadw Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad. Mae gweithio ochr yn ochr â Jehofa yn fraint arbennig ac yn rhan o’n gwasanaeth cysegredig.Sal 127:1; Dat 7:15.

GALLWN GYFRANNU DRWY . . .

  • Dacluso ar ôl pob cyfarfod. Os na fedrwch wneud llawer, tacluswch o gwmpas eich sedd.

  • Bod yn barod i helpu i lanhau ac i gynnal a chadw Neuadd y Deyrnas. Llawer o waith a wna llawer o ddwylo!lv 92-93 ¶18.

  • Cyfrannu’n ariannol. Mae hyd yn oed “dau ddarn bychan o bres” sydd wedi ei roi o’r galon yn plesio Jehofa.Mc 12:41-44.

  • Gwirfoddoli i adeiladu ac atgyweirio ein hadeiladau os bydd eich sefyllfa yn caniatáu. Nid oes angen profiad yn y maes adeiladu i gael rhan.