EIN BYWYD CRISTNOGOL
“O Jehofa, . . . Ynot Ti yr Wyf yn Ymddiried”
Mae’n bwysig inni ymddiried yn Jehofa mewn amseroedd da a drwg fel ei gilydd. (Sal 25:1, 2) Yn yr wythfed ganrif COG, wynebodd yr Iddewon argyfwng a brofodd eu ffydd yn Nuw. Mae llawer o wersi i ni yn yr hyn a ddigwyddodd. (Rhu 15:4) Ar ôl gwylio’r fideo ‘O Jehofa, Ynot Ti yr Wyf yn Ymddiried,’ sut byddet ti’n ateb y cwestiynau canlynol?
-
Pa argyfwng gafodd Heseceia?
-
Sut rhoddodd Heseceia’r egwyddor yn Diarhebion 22:3 ar waith pan welodd y posibilrwydd o warchae ar y ddinas?
-
Pam na ystyriodd Heseceia ildio i Asyria neu wneud cynghrair â’r Aifft?
-
Sut mae Heseceia yn esiampl dda i Gristnogion?
-
Pa sefyllfaoedd heddiw sy’n profi ein hymddiriedaeth ni yn Jehofa?