EIN BYWYD CRISTNOGOL
Cofia Weddïo Dros Gristnogion Sy’n Cael eu Herlid
Proffwydodd y Beibl y byddai Satan yn ein herlid i geisio rhwystro ein gweinidogaeth. (In 15:20; Dat 12:17) Sut gallwn fod o gymorth i’n cyd-Gristnogion sy’n dioddef erledigaeth mewn gwledydd eraill? Gallwn weddïo drostyn nhw. “Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol.”—Iag 5:16.
Beth gallwn ni weddïo amdano? Gallwn ofyn i Jehofa roi dewrder i’n brodyr a chwiorydd i’w helpu i beidio ag ofni. (Esei 41:10-13) Gallwn hefyd weddïo i’r awdurdodau fod yn ffafriol tuag at ein gwaith pregethu, ‘er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw ein bywydau.’—1Ti 2:1, 2.
Pan erlidiwyd Paul a Pedr, gweddïodd Cristnogion y ganrif gyntaf drostyn nhw a defnyddio eu henwau. (Act 12:5; Rhu 15:30, 31) Hyd yn oed os nad ydyn ni’n gwybod enwau’r rhai sy’n cael eu herlid heddiw, ydy hi’n bosibl inni sôn am eu cynulleidfa, gwlad, neu ardal?