EIN BYWYD CRISTNOGOL
Paid â Phoeni
Dywedodd Iesu yn ei Bregeth ar y Mynydd y dylen ni beidio â phoeni am ein bywydau. (Mth 6:25) Er ei bod yn hollol naturiol i bobl amherffaith sy’n byw ym myd Satan bryderu o bryd i’w gilydd, roedd Iesu’n dysgu ei ddilynwyr i osgoi pryderu’n ormodol. (Sal 13:2) Pam? Oherwydd gall orbryderu, hyd yn oed am anghenion dyddiol, dynnu ein sylw a gwneud hi’n anoddach inni roi’r Deyrnas yn gyntaf. (Mth 6:33) Bydd sylwadau eraill Iesu yn ein helpu i stopio pryderu’n ormodol.
-
Mth 6:26—Beth allwn ni ei ddysgu wrth edrych ar yr adar? (w16.07 9-10 ¶11-13)
-
Mth 6:27—Pam mae pryderu’n ormodol yn wastraff o’n hamser a’n hegni? (w05-E 11/1 22 ¶5)
-
Mth 6:28-30—Beth allwn ni ei ddysgu o’r blodau gwyllt? (w16.07 10-11 ¶15-16)
-
Mth 6:31, 32—Sut mae Cristnogion yn wahanol i bobl y byd? (w16.07 11 ¶17)
Am beth dw i eisiau stopio pryderu?