Roedd Iesu’n Caru Pobl
Mae Mathew penodau 8 a 9 yn trafod rhan o weinidogaeth Iesu yn ardal Galilea. Wrth iacháu pobl, dangosodd Iesu ei rym, ond yn fwy pwysig, dangosodd ei gariad mawr a’i dosturi dros eraill.
-
Iachaodd Iesu ddyn gwahanglwyfus.—Mth 8:1-3
-
Iachaodd Iesu was swyddog milwrol.—Mth 8:5-13
Iachaodd fam yng nghyfraith Pedr.—Mth 8:14, 15
Bwriodd allan gythreuliaid ac fe iachaodd bobl oedd yn dioddef.—Mth 8:16, 17
-
Gwnaeth Iesu fwrw allan gythreuliaid ofnadwy o ffyrnig a’u hanfon i mewn i genfaint o foch.—Mth 8:28-32
-
Iachaodd Iesu ddyn oedd wedi ei barlysu.—Mth 9:1-8
Iachaodd ef ddynes oedd wedi cyffwrdd â’i wisg, ac fe atgyfododd ferch Jairus.—Mth 9:18-26
Iachaodd ddau ddyn dall a dyn mud.—Mth 9:27-34
-
Ymwelodd Iesu â’r dinasoedd a phentrefi gan iacháu pob math o afiechyd a salwch.—Mth 9:35, 36
Sut gallaf ddangos mwy o gariad a thosturi tuag at y rhai o’m cwmpas?