EIN BYWYD CRISTNOGOL
Gwna Heddwch Gyda Dy Frawd yn Gyntaf—Sut?
Dychmyga dy fod yn byw yn Galilea yn amser Iesu. Rwyt ti wedi teithio i Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Pebyll. Mae’r ddinas yn llawn prysurdeb a chyd-addolwyr yn heidio o bell ac agos. A tithau eisiau cyflwyno offrwm i Jehofa, dyma ti’n cychwyn ar dy daith drwy strydoedd cul y ddinas, ti a’r afr yn dynn wrth dy sodlau, yn ymlwybro drwy’r tyrfaoedd tuag at y deml. Wrth iti gyrraedd, mae’r deml yn orlawn a phob un yn awyddus i gyflwyno ei aberth. O’r diwedd mae dy dro di’n dod i roi dy afr i’r offeiriaid. Yr eiliad honno dyma ti’n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn. Ond gall hwnnw fod yn y dorf enfawr neu unrhyw le yn y ddinas. Mae Iesu’n esbonio beth ddylet ti ei wneud. (Darllen Mathew 5:24.) Sut gelli di a dy frawd sydd wedi ei bechu ddilyn cyngor Iesu, a cheisio heddwch? Ym mhob un o’r rhestrau isod, ticia’r bocs wrth ymyl yr ateb cywir.
DYLET TI . . .
-
siarad â dy frawd dim ond os wyt ti’n meddwl bod ganddo reswm dilys dros gynhyrfu
-
tria gywiro’r ffordd mae dy frawd yn meddwl os wyt ti’n teimlo ei fod yn groendenau neu fod ef ei hun yn rhan o’r broblem
-
gwranda’n amyneddgar wrth i dy frawd fynegi ei hun, a hyd yn oed os nad wyt ti’n deall yn iawn, ymddiheura am unrhyw boen oeddet ti wedi ei achosi neu unrhyw ganlyniadau anfwriadol i’r hyn a wnest ti
DYLAI DY FRAWD . . .
-
fynd ati i geisio cefnogaeth eraill yn y gynulleidfa drwy ddweud wrthyn nhw sut gwnest ti ei bechu
-
dweud y drefn wrthyt ti, gan fynd dros bob manylyn y drosedd, a disgwyl i ti syrthio ar dy fai
-
cydnabod y gostyngeiddrwydd a’r dewrder a gymerodd iti ddod ato, a maddau iti o’r galon
Er nad yw’n haddoliad heddiw yn gofyn am aberthu anifeiliaid, beth oedd Iesu yn ei ddysgu am y cysylltiad rhwng heddwch gyda’n brawd ac addoliad sy’n dderbyniol i Dduw?