Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ble rwyt ti ar hyd y llwybr i fedydd?

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Dewisa i Wasanaethu Jehofa

Dewisa i Wasanaethu Jehofa

Os wyt ti’n Gristion ifanc neu’n fyfyriwr y Beibl, oes gen ti’r nod o gael dy fedyddio? Pam dylet ti eisiau cael dy fedyddio? Mae ymgysegriad a bedydd yn dod â pherthynas arbennig â Jehofa. (Sal 91:1) Gallan nhw ein hachub ni. (1Pe 3:21) Sut gelli di gyrraedd dy nod?

Profa i ti dy hun mai hyn ydy’r gwir. Pan ddaw cwestiynau i dy feddwl, gwna ymchwil. (Rhu 12:2) Ceisia ddarganfod unrhyw newidiadau sy’n rhaid i ti eu gwneud, a gweithreda allan o awydd i blesio Jehofa. (Dia 27:11; Eff 4:23, 24) Gweddïa arno am help bob amser. Bydda’n hyderus y bydd Jehofa yn dy gryfhau ac yn dy gefnogi gyda’i ysbryd glân pwerus. (1Pe 5:10, 11) Mae’n werth yr ymdrech. Gwasanaethu Jehofa ydy’r ffordd orau o fyw! —Sal 16:11.

GWYLIA’R FIDEO THE ROAD TO BAPTISM, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa heriau mae rhai wedi dod drostyn nhw er mwyn cael eu bedyddio?

  • Sut gelli di fagu’r ffydd sydd ei hangen i ymgysegru i Jehofa?

  • Beth sydd wedi cymell rhai i gymryd y camau angenrheidiol er mwyn cael eu bedyddio?

  • Sut mae Jehofa yn bendithio’r rhai sy’n dewis ei wasanaethu?

  • Beth yw ystyr ymgysegriad a bedydd?