EIN BYWYD CRISTNOGOL
Gwarchoda Dy Briodas
Mae Jehofa yn cymryd addunedau priodas o ddifri. Dywedodd fod rhaid i ŵr a gwraig lynu wrth ei gilydd. (Mth 19:5, 6) Mae ’na lawer o briodasau hapus ymhlith pobl Dduw. Er hynny, does dim un briodas yn berffaith. Mae problemau yn codi. Dylen ni osgoi meddwl, fel mae llawer, y dylai cwpl wahanu neu ysgaru yn wyneb problemau. Sut gall Cristnogion priod warchod eu priodas?
Ystyria bum cam pwysig.
-
Gwarchoda dy galon drwy wrthod pethau fel fflyrtio ac adloniant anfoesol, sy’n niweidio priodas.—Mth 5:28; 2Pe 2:14.
-
Cryfha dy gyfeillgarwch â Duw, a chryfha dy ddymuniad i’w blesio yn dy briodas.—Sal 97:10.
-
Parha i wisgo’r bersonoliaeth newydd, ac i wneud pethau bach caredig a fydd yn gwneud bywyd dy gymar yn haws.—Col 3:8-10, 12-14.
-
Dal ati i gyfathrebu mewn ffordd barchus ac ystyrlon.—Col 4:6, BCND.
-
Dylai gŵr a gwraig ddangos cariad yn eu perthynas rywiol.—1Co 7:3, 4; 10:24.
Pan mae Cristnogion yn anrhydeddu priodas, maen nhw’n parchu dylunydd y briodas, Jehofa.
GWYLIA’R FIDEO WE MUST “RUN WITH ENDURANCE”—OBEY THE RULES OF THE CONTEST, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Er gall priodas gael dechrau da, pa anawsterau a all godi?
-
Sut gall egwyddorion y Beibl helpu rhai sy’n teimlo eu bod nhw mewn priodas ddigariad?
-
Pa reolau mae Jehofa wedi eu gosod ar gyfer priodasau?
-
Beth mae’n rhaid i ŵr a gwraig ei wneud er mwyn cael priodas lwyddiannus?