Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Rieni, Dysgwch Eich Plant

Rieni, Dysgwch Eich Plant

Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n galw drwg yn dda a da yn ddrwg. (Esei 5:20) Yn anffodus, mae rhai pobl yn gwneud pethau mae Jehofa yn eu casáu, gan gynnwys ymddygiad anaddas rhwng rhai o’r un rhyw. Gall cyfoedion yn yr ysgol neu eraill geisio denu ein rhai ifanc annwyl i ddilyn eu hesiampl. Sut gelli di baratoi dy blant i wynebu temtasiynau fel hyn yn llwyddiannus?

Dysga safonau Jehofa i dy blant. (Le 18:3) Yn raddol, rhanna wybodaeth sy’n addas i’w hoedran ynglŷn â beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ryw. (De 6:7) Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i wedi dysgu fy mhlant am y ffyrdd cywir i ddangos cariad, am bwysigrwydd gwisgo’n weddus, ac am yr angen i eraill barchu eu preifatrwydd? Beth byddai fy mhlant yn ei wneud petai rhywun yn ceisio dangos pornograffi iddyn nhw, neu’n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth sy’n anghywir yng ngolwg Jehofa? Gall dysgu dy blant ymlaen llaw eu helpu nhw i osgoi llawer o broblemau yn nes ymlaen. (Dia 27:12; Pre 7:12) Mae dysgu dy blant yn dangos dy fod ti’n gwerthfawrogi dy etifeddiaeth werthfawr gan Jehofa.—Sal 127:3.

GWYLIA’R FIDEO BUILD A HOUSE THAT WILL ENDURE—SAFEGUARD YOUR CHILDREN FROM “WHAT IS EVIL,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam mae rhai yn dal yn ôl rhag dysgu eu plant am ryw?

  • Pam mae’n rhaid i rieni ddysgu eu plant ‘yn nisgyblaeth a hyfforddiant Jehofa?’—Eff 6:4, BCND.

  • Mae gwybodaeth yn amddiffyn

    Beth mae cyfundrefn Jehofa wedi eu darparu i helpu rhieni i ddysgu eu plant am ryw?—w19.05 12, blwch

  • Pam dylet ti gyfathrebu gyda dy blant yn rheolaidd cyn i broblemau godi?