Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH

Helpa Fyfyrwyr y Beibl i Fynychu’r Cyfarfodydd

Helpa Fyfyrwyr y Beibl i Fynychu’r Cyfarfodydd

Mae cyfarfodydd y gynulleidfa yn rhan hanfodol o addoliad pur. (Sal 22:22) Mae pawb sy’n ymgynnull i addoli Jehofa yn cael hyd i lawenydd a bendithion. (Sal 65:4) Fel arfer, mae myfyrwyr y Beibl yn dod yn eu blaenau yn gyflymach pan maen nhw’n mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd.

Sut gelli di helpu dy fyfyrwyr i ddod i’r cyfarfodydd? Parha i’w gwahodd nhw. Dangosa’r fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? iddyn nhw. Esbonia fuddion y cyfarfodydd. (lff gwers 10) Gallet ti rannu pwynt penodol rwyt ti wedi ei ddysgu yn y cyfarfod neu roi cipolwg o raglen y cyfarfod nesaf. Gwna’n siŵr bod gan dy fyfyrwyr y cyhoeddiadau byddan nhw’n eu hangen. Hefyd, cynigia help ymarferol. Efallai byddan nhw angen lifft. Bydd hi’n werth pob ymdrech pan ddaw dy fyfyriwr i’r cyfarfod am y tro cyntaf.—1Co 14:24, 25.

GWYLIA’R FIDEO HELPA FYFYRWYR Y BEIBL I FYNYCHU’R CYFARFODYDD, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa gyfle gymerodd Neeta i wahodd Lili i’r cyfarfod?

  • Pam ydyn ni’n hapus i weld myfyrwyr y Beibl yn mynychu’r cyfarfodydd?

  • “Mae’n wir!—Mae Duw yn eich plith chi!”

    Pa fath o brofiad gafodd Lili yn ei chyfarfod cyntaf?