Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Ceisia Ddeall Meddwl Duw

Ceisia Ddeall Meddwl Duw

Rydyn ni eisiau plesio Jehofa ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. (Dia 27:11) I wneud hynny, mae’n rhaid i’n penderfyniadau adlewyrchu ei feddylfryd, hyd yn oed pan nad oes orchymyn penodol i’n harwain ni. Beth all helpu gyda hyn?

Cadwa at rwtîn o astudio’r Beibl. Mae darllen y Beibl yn debyg i dreulio amser gyda Jehofa. Gallwn ni ddysgu am ffordd Jehofa o feddwl drwy ystyried sut gwnaeth ef ddelio â’i bobl yn y gorffennol ac esiamplau o rai a wnaeth ei blesio neu ei frifo. Pan ydyn ni angen gwneud penderfyniad, gall yr ysbryd glân ein helpu ni i gofio gwersi ac egwyddorion pwysig rydyn ni wedi eu dysgu o Air Duw.—In 14:26.

Gwna ymchwil. Pan wyt ti’n gorfod gwneud penderfyniad, gofynna i ti dy hun, ‘Pa adnodau neu hanesion o’r Beibl all fy helpu i ddeall sut mae Jehofa yn teimlo am y pwnc?’ Gweddïa am help Jehofa, a defnyddia adnoddau ymchwil theocrataidd i ddod o hyd i egwyddorion Beiblaidd perthnasol y gelli di eu rhoi ar waith yn dy sefyllfa di.—Sal 25:4.

GWYLIA’R FIDEO WE MUST “RUN WITH ENDURANCE”—EAT NUTRITIOUS FOOD, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth oedd yn achosi i’r chwaer ifanc yn y fideo deimlo o dan bwysau?

  • Sut gelli di ddefnyddio adnoddau ymchwil i dy helpu i ddelio â heriau tebyg?

  • Sut mae cymryd amser i wneud ymchwil ac astudiaeth bersonol yn ein helpu i wneud penderfyniadau da?—Heb 5:13, 14