Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gosoda Amcanion ar Gyfer Adeg y Goffadwriaeth

Gosoda Amcanion ar Gyfer Adeg y Goffadwriaeth

Bob blwyddyn, mae pobl Jehofa yn edrych ymlaen at ddathlu’r Goffadwriaeth gyda’i gilydd. Yn yr wythnosau cyn ac ar ôl y Goffadwriaeth, rydyn ni’n cymryd mantais o gyfleoedd arbennig i roi clod i Jehofa a diolch iddo am rodd y pridwerth. (Eff 1:3, 7) Er enghraifft, rydyn ni’n gwneud ein gorau i wahodd eraill i’r Goffadwriaeth. Mae rhai yn gallu trefnu eu pethau er mwyn arloesi’n gynorthwyol, gyda’r amcan o wneud 30 neu 50 awr yn ystod y misoedd o Fawrth ac Ebrill. Hoffet ti wneud mwy yn y weinidogaeth yn ystod adeg y Goffadwriaeth? Beth all dy helpu di i lwyddo?

Yn aml, rydyn ni’n cyflawni mwy pan ydyn ni’n gwneud cynllun. (Dia 21:5) Gydag adeg y Goffadwriaeth yn prysur ddod, nawr yw’r amser i ddechrau cynllunio. Ystyria wneud mwy yn y weinidogaeth yn ystod y cyfnod hwn a meddylia am ffyrdd y gelli di gyrraedd dy nod. Yna, gofynna i Jehofa fendithio dy ymdrechion.—1In 5:14, 15.

Wyt ti’n gallu meddwl am rai ffyrdd i ehangu dy weinidogaeth yn ystod adeg y Goffadwriaeth?