Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cryfha Dy Ffydd yng Ngair Duw

Cryfha Dy Ffydd yng Ngair Duw

Gall gair Duw drawsnewid ein bywydau. (Heb 4:12) Ond, er mwyn elwa o’i arweiniad a chyngor, mae’n rhaid inni fod yn sicr mai “gair Duw” yw’r Beibl. (1The 2:13) Sut gallwn ni gryfhau ein ffydd yn y Beibl?

Darllena ran o’r Beibl bob dydd. Wrth iti ddarllen, edrycha am dystiolaeth sy’n profi mai Duw yw ei Awdur. Er enghraifft, edrycha ar y cyngor yn llyfr Diarhebion a sylwa ar sut mae ei ddoethineb yn berthnasol i’n bywydau heddiw.—Dia 13:20; 14:30.

Dechreua brosiect astudio. Gelli di ddod yn gyfarwydd â’r dystiolaeth sy’n profi bod y Beibl wedi ei ysbrydoli. Yn Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa, edrycha o dan y pwnc “Y Beibl” ac yna “Ysbrydoli gan Dduw.” Gelli di hefyd gryfhau dy ffydd bod neges y Beibl heb newid drwy edrych ar y wybodaeth yn yr erthygl “Sut Mae’r Beibl Wedi Goroesi” yn Deffrwch!, Tachwedd 2007.

GWYLIA’R FIDEO PAM MAE GYNNON NI FFYDD YN . . . GAIR DUW, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut mae darganfyddiad ar wal teml yn Karnak, yr Aifft, yn cadarnhau cywirdeb Gair Duw?

  • Sut rydyn ni’n gwybod bod neges y Beibl heb newid?

  • Sut mae’r ffaith bod y Beibl wedi goroesi yn profi iti ei fod wedi dod oddi wrth Dduw? —Darllen Eseia 40:8.