Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Paratoa Nawr ar Gyfer Argyfwng Meddygol

Paratoa Nawr ar Gyfer Argyfwng Meddygol

Pam oes angen paratoi? Gall yr angen i fynd i’r ysbyty neu argyfwng meddygol godi yn sydyn heb rybudd. Felly, paratoa cyn i argyfwng godi, er mwyn iti dderbyn y cymorth meddygol gorau posib petai rhywbeth yn digwydd. Drwy wneud hynny, rwyt ti’n dangos dy fod ti’n parchu bywyd a chyfraith Jehofa ar waed.—Act 15:28, 29.

Beth gelli di ei wneud i baratoi?

  • Llenwa ddogfen Advance Decision ar ôl gweddïo a meddwl yn ofalus amdano. a Gall cyhoeddwyr bedyddiedig ofyn i’r gwas llenyddiaeth am ddogfen Advance Decision iddyn nhw eu hunain ynghyd ag Identity Card (ic) i’w plant dan oed

  • Os wyt ti’n feichiog, gofynna i dy henuriaid am gopi o Information for Expectant Mothers (S-401). Gall y ddogfen hon dy helpu i wneud penderfyniadau da ynglŷn â materion meddygol a all godi yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth

  • Os oes angen iti aros yn yr ysbyty neu gael triniaeth feddygol, rho wybod i dy henuriaid o flaen llaw a dyweda wrth yr ysbyty dy fod ti’n hapus i un o weinidogion Tystion Jehofa ymweld â ti

Sut gall yr henuriaid helpu? Gallan nhw dy helpu i lenwi’r ddogfen Advance Decision. Ond, fydd henuriaid ddim yn gwneud penderfyniadau drostot ti nac yn rhoi eu barn ar faterion sy’n benderfyniadau personol. (Rhu 14:12; Ga 6:5) Pan wyt ti’n gadael i’r henuriaid lleol wybod dy fod ti’n wynebu sefyllfa feddygol a all gynnwys gwaed, byddan nhw’n cysylltu â’r Pwyllgor Cyswllt Ysbytai (Hospital Liaison Committee neu HLC) yn brydlon ar dy ran di.

Sut gall yr HLC helpu? Mae’r brodyr sy’n gwasanaethu ar yr HLC wedi eu hyfforddi i esbonio ein safiad crefyddol ynglŷn â gwaed i’r rhai mewn meysydd meddygol a chyfreithiol. Gallan nhw drafod â dy ddarparwr gofal iechyd pa driniaethau sy’n bosib er mwyn osgoi trallwysiadau gwaed. Os oes angen, gallan nhw dy helpu i ddod o hyd i ddoctor sy’n barod i gydweithio â dy ofynion.

GWYLIA’R FIDEO SUT I BENDERFYNU AR DRINIAETHAU MEDDYGOL SY’N YMWNEUD Â GWAED, AC YNA ATEBA’R CWESTIWN CANLYNOL:

  • Beth ddysgaist ti o’r fideo hwn a all dy helpu i baratoi ar gyfer argyfwng meddygol sy’n ymwneud â gwaed?

a Gall gwers 39 y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! dy helpu i wneud penderfyniadau meddygol ynglŷn â defnydd gwaed.