EIN BYWYD CRISTNOGOL
Mae Jehofa yn Ein Helpu Ni i Wynebu Treialon
Yn ystod y dyddiau diwethaf hyn, rydyn ni’n wynebu llawer o dreialon. Ar adegau, gallen ni deimlo eu bod nhw’n ormod inni. Fodd bynnag, os ydyn ni’n parhau i nesáu at Jehofa, bydd yn ein helpu ni i ddyfalbarhau, hyd yn oed drwy’r treialon mwyaf torcalonnus. (Esei 43:2, 4) Sut gallwn ni nesáu at Jehofa pan ydyn ni’n wynebu treialon?
Gweddi. Pan ydyn ni’n tywallt ein calonnau i Jehofa, mae’n rhoi heddwch meddwl inni a’r nerth emosiynol i ddyfalbarhau.—Php 4:6, 7; 1The 5:17.
Cyfarfodydd. Yn fwy nag erioed, rydyn ni angen y bwyd ysbrydol a’r cwmni da mae Jehofa yn eu darparu inni yn ein cyfarfodydd. (Heb 10:24, 25) Gallwn ni elwa’n llawn o help ysbryd Jehofa drwy baratoi ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa, eu mynychu nhw, a chymryd rhan ynddyn nhw. —Dat 2:29.
Gweinidogaeth. Bydd ymdrechu i fod yn brysur yn y weinidogaeth yn ein helpu ni i aros yn bositif. Hefyd, byddwn ni’n cryfhau ein perthynas â Jehofa a’n cyd-weithwyr.—1Co 3:5-10.
GWYLIA’R FIDEO BYDD JEHOFA YN GOFALU AMDANOCH CHI, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Beth helpodd Malu i aros yn agos at Jehofa yn ystod ei threialon?
-
Fel Malu, sut gall y geiriau yn Salm 34:18 ddod â chysur inni yn ystod ein treialon?
-
Sut mae profiad Malu yn dangos y bydd Jehofa yn rhoi “grym sydd y tu hwnt i’r arferol” inni pan ydyn ni’n wynebu treialon?—2Co 4:7