Chwefror 19-25
SALMAU 8-10
Cân 2 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Bydda i’n Dy Addoli Di, o Jehofa!
(10 mun.)
Mae Jehofa yn eithriadol o dda inni (Sal 8:3-6; w21.08 3 ¶6)
Rydyn ni’n hapus i foli Jehofa drwy ddweud wrth eraill am yr holl bethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud (Sal 9:1; w20.05 23 ¶10)
Rydyn ni hefyd yn ei foli drwy ganu o waelod ein calonnau iddo (Sal 9:2; w22.04 7 ¶13)
GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Ym mha ffyrdd eraill galla i foli Jehofa?’
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 8:3—Beth roedd y Salmydd yn ei olygu pan gyfeiriodd at fysedd Duw? (it-1-E 832)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 10:1-18 (th gwers 11)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Mae’r deiliad yn dweud nad yw ef yn credu mewn Duw. (lmd gwers 5 pwynt 4)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Dywedodd y person mewn sgwrs cynt nad yw ef yn credu mewn Duw, ond mae’n agored i edrych ar dystiolaeth sy’n awgrymu bod Creawdwr yn bodoli. (th gwers 7)
6. Anerchiad
(5 mun.) w21.06 6-7 ¶15-18—Thema: Helpwch Eich Myfyrwyr y Beibl i Foli Jehofa. (th gwers 10)
Cân 10
7. Sut i Dystiolaethu’n Anffurfiol Mewn Ffordd Naturiol
(10 mun.) Trafodaeth.
Gallwn foli Jehofa yn fwy drwy dystiolaethu i’r rhai rydyn ni’n cyfarfod yn ein bywydau bob dydd. (Sal 35:28) Ar y cychwyn, efallai rydyn ni’n teimlo’n nerfus am dystiolaethu’n anffurfiol. Ond wrth inni ddysgu sut i ddechrau a pharhau sgyrsiau mewn ffordd naturiol, gallwn ni ddod yn fwy effeithiol a hyd yn oed ei fwynhau!
Dangosa’r FIDEO Byddwch yn Barod “i Rannu’r Newyddion Da am Heddwch”—Cymryd y Cam Cyntaf. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:
Beth wnest ti ei ddysgu o’r dramateiddiad hwn a all dy helpu i ddod yn fwy effeithiol wrth dystiolaethu’n anffurfiol?
Gall yr awgrymiadau canlynol dy helpu di i ddechrau sgwrs:
-
Edrycha am gyfleoedd i ddechrau sgyrsiau pob tro rwyt ti’n gadael dy gartref. Gweddïa amdani, a gofyn i Jehofa dy arwain di at bobl sydd eisiau gwrando
-
Bydda’n gyfeillgar a dangos diddordeb yn y bobl rwyt ti’n cyfarfod. Ceisia ddysgu rhywbeth am y person fel dy fod ti’n gwybod pa wirioneddau o’r Beibl efallai byddai’n apelio ato
-
Os mae’n addas, chwilia am gyfleoedd i gyfnewid manylion cyswllt
-
Paid â bod yn siomedig os ydy’r sgwrs yn dod i ben cyn rwyt ti’n cael y cyfle i dystiolaethu
-
Meddylia am y person ar ôl y sgwrs. Dalia ati i ddangos diddordeb personol drwy anfon linc i adnod o’r Beibl neu erthygl ar jw.org
Tria hyn: Os mae rhywun yn gofyn, ‘Sut roedd dy benwythnos?,’ sonia am rywbeth wnest ti ei ddysgu yn y cyfarfod neu’r gwaith pregethu rwyt ti’n ei wneud.
8. Anghenion Lleol
(5 mun.)
9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) lff gwers 48 pwyntiau 1-4