Chwefror 26–Mawrth 3
SALMAU 11-15
Cân 139 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Dychmyga Dy Hun Mewn Byd Heddychlon Newydd Duw
(10 mun.)
Mae aflonyddwch cymdeithasol yn meithrin y trais rydyn ni’n ei weld heddiw (Sal 11:2, 3; w06-E 5/15 18 ¶3)
Gallwn fod yn hyderus y bydd Jehofa yn dod â diwedd ar drais (Sal 11:5; wp16.4-E 11)
Gall myfyrio ar addewid Jehofa o achubiaeth ein helpu ni i aros yn amyneddgar iddo weithredu (Sal 13:5, 6; w17.08 7 ¶15)
RHO GYNNIG AR HYN: Darllen Eseciel 34:25, a dychmyga dy hun yn mwynhau’r heddwch sy’n cael ei ddisgrifio yn yr adnod.—kr-E 236 ¶16.
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 14:1—Sut gall yr agwedd sy’n cael ei disgrifio yn yr adnod hon effeithio ar Gristnogion? (w13-E 9/15 19 ¶12)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 13:1–14:7 (th gwers 2)
4. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Gwahodda’r person i’r Goffadwriaeth. (lmd gwers 5 pwynt 3)
5. Dechrau Sgwrs
(1 mun.) O DŶ I DŶ. Gwahodda’r person i’r Goffadwriaeth. (lmd gwers 3 pwynt 4)
6. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Mae rhywun yn dangos diddordeb yn y gwahoddiad i’r Goffadwriaeth. (lmd gwers 7 pwynt 4)
7. Gwneud Disgyblion
(5 mun.) lff gwers 13 crynodeb, adolygu, a nod. Defnyddia erthygl o’r rhan “Darganfod Mwy” i helpu dy fyfyriwr i ddeall teimladau Duw ynglŷn â gau grefydd. (th gwers 12)
Cân 8
8. “Mae Doethineb yn Well Nag Arfau Rhyfel”
(10 mun.) Trafodaeth.
Mae trais yn cynyddu drwy’r byd cyfan. Mae Jehofa’n gwybod gall y trais rydyn i’n gweld ac yn dioddef achosi inni bryderu yn ofnadwy. Mae hefyd yn deall ein hangen i fod yn ddiogel. Un ffordd mae’n ein gwarchod ni yw trwy ei Air, y Beibl.—Sal 12:5-7.
Mae’r Beibl yn cynnwys doethineb sy’n “well nag arfau rhyfel.” (Pre 9:18) Ystyria sut gall yr egwyddorion Beiblaidd canlynol yn ein hamddiffyn ni rhag bod yn ddioddefwyr trais.
-
Pre 4:9, 10—Osgoi bod ar dy ben dy hun mewn llefydd a sefyllfaoedd peryglus
-
Dia 22:3—Aros yn ymwybodol o beth sy’n mynd ymlaen o dy gwmpas pan wyt ti mewn llefydd cyhoeddus
-
Dia 26:17—Paid â busnesu mewn ffrae sydd ddim byd i wneud gyda ti
-
Dia 17:14—Gadael yr ardal os mae trais yn edrych yn debygol o ddechrau, a chadw draw o dyrfaoedd sy’n casglu i brotestio
-
Lc 12:15—Paid a rhoi dy fywyd yn y fantol er mwyn gwarchod pethau materol
Dangosa’r FIDEO Efelycha’r Rhai Ffyddlon, Nid y Rhai Heb Ffydd—Enoch, Nid Lamech. Yna, gofynna i’r gynulleidfa:
Sut gwnaeth esiampl Enoch effeithio ar benderfyniadau ac ymateb y tad yn wyneb trais?—Heb 11:5
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai fod Cristion yn teimlo ei fod angen amddiffyn ei hun neu ei eiddo. Os felly, byddai’n gwneud popeth yn ei allu i osgoi bod yn waed euog drwy ladd rhywun.—Sal 51:14, Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Gorffennaf 2017 Y Tŵr Gwylio.
9. Ymgyrch y Goffadwriaeth i Ddechrau ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 2
(5 mun.) Anerchiad gan henuriad. Amlinella’r trefniadau lleol ar gyfer yr ymgyrch, yr anerchiad arbennig, a’r Goffadwriaeth. Atgoffa cyhoeddwyr eu bod nhw’n gallu arloesi’n gynorthwyol drwy wneud 15 awr yn ystod y misoedd Mawrth ac Ebrill.