Ionawr 15-21
JOB 36-37
Cân 147 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Pam Gelli Di Drystio Addewid Duw o Fywyd Tragwyddol
(10 mun.)
Mae Jehofa ei hun yn byw am byth (Job 36:26; w15-E 10/1 13 ¶1-2)
Mae gan Jehofa y doethineb a’r nerth i gynnal bywyd (Job 36:27, 28; w20.05 22 ¶6)
Mae Jehofa yn ein dysgu ni sut i gael bywyd tragwyddol (Job 36:4, 22; In 17:3)
Mae ffydd gref yn addewid Duw am fywyd tragwyddol yn ein hatgyfnerthu ni fel angor wrth inni wynebu anawsterau.—Heb 6:19; w22.10 28 ¶16.
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Job 37:20, BCND—Sut cafodd newyddion a gwybodaeth eu cyfathrebu yng ngwledydd y Beibl? (it-1-E 492)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Job 36:1-21 (th gwers 2)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. (lmd gwers 3 pwynt 3)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) O DŶ I DŶ. (lmd gwers 2 pwynt 5)
6. Egluro Dy Ddaliadau
(5 mun.) Anerchiad. ijwfq 57 ¶5-15—Thema: Pam Cafodd Tystion Jehofa eu Herlid yn Ystod Adeg yr Holocost? (th gwers 18)
Cân 49
7. Paratoi ar Gyfer Sefyllfaoedd Sy’n Gofyn am Lawdriniaeth neu Ofal Meddygol
(15 mun.) Trafodaeth gan henuriad.
Mae cyfundrefn Jehofa wedi darparu offer i’n helpu ni i fod yn ufudd i’w gyfraith ynglŷn â gwaed. (Act 15:28, 29) Wyt ti’n gwneud defnydd da ohonyn nhw?
Dogfen Advance Decision ac Identity Card (ic): Mae’r cardiau hyn yn amlinellu dymuniad y claf ynglŷn â defnydd gwaed mewn sefyllfa feddygol. Gall cyhoeddwyr bedyddiedig ofyn i’r gwas llenyddiaeth am ddogfen Advance Decision iddyn nhw eu hunain ynghyd ag Identity Card i’w plant dan oed. Dylai’r cardiau hyn gael eu cadw ar ein person trwy’r adeg. Os oes angen iti lenwi un, neu ei ddiweddaru, paid ag oedi.
Information for Expectant Mothers (S-401) ac Information for Patients Requiring Surgery or Chemotherapy (S-407): Gall y dogfennau hyn ein helpu ni i baratoi ar gyfer triniaethau meddygol gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â gwaed. Os wyt ti’n feichiog, angen llawdriniaeth, neu angen triniaeth ar gyfer canser, gofynna i’r henuriaid am gopi o’r ddogfen addas.
Pwyllgor Cyswllt Ysbytai (Hospital Liaison Committee neu HLC): Mae aelodau o’r HLC yn henuriaid cymwys sy’n barod i ddarparu gwybodaeth i feddygon a chyhoeddwyr ynglŷn â defnydd gwaed. Gallan nhw adael i dy ddarparwr gofal iechyd wybod pa driniaethau sy’n bosib er mwyn osgoi trallwysiadau gwaed. Os oes angen, gallan nhw dy helpu i ddod o hyd i ddoctor sy’n barod i gydweithio â dy ofynion. Maen nhw ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Cysyllta â’r HLC mor fuan â phosib mewn unrhyw sefyllfa lle bydd angen i rywun aros yn yr ysbyty, cael llawdriniaeth, neu gael triniaeth arall fel triniaeth ar gyfer canser. Mae angen cysylltu â nhw hyd yn oed os nad wyt ti’n meddwl y bydd a mater o waed yn codi. Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd yn berthnasol i ferched beichiog. Os oes angen cymorth, gofynna i un o’r henuriaid am fanylion yr HLC.
Dangosa’r FIDEO Hospital Liaison Committees—How Do They Assist? Yna, gofynna i’r gynulleidfa:
Sut gall yr HLC dy helpu di os wyt ti’n wynebu sefyllfa lle mae angen gofal meddygol neu lawdriniaeth?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) lff gwers 45 pwyntiau 1-3